Mae’r nofiwr Cymreig, David Davies wedi cyhoeddi y bydd o’n dychwelyd i Gymru i gwblhau ei baratoadau ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain 2012.
Cafodd Davies ei eni yn Y Barri ac fe symudodd i Loughborough yn 2007. Ond fe fydd yn dychwelyd i ymarfer yng Nghaerdydd, lle’r oedd o wedi bod yn nofio rhwng saith a 22 oed.
Mae hyn yn golygu y bydd o’n ail ymuno gyda’i hyfforddwr nofio o’i blentyndod, Dave Haller.
“Rydw i wedi cael cyfnod anodd eleni o ran llwyddiant mewn cystadlaethau ac wrth ymarfer, ac roeddwn i’n gwybod ei fod o’n amser newid,” meddai Davies.
“Mae yna ddwy flynedd tan Llundain ac rwy’n gwybod bod angen newid arna’i os ydw i am lwyddo yn 2012.”
“Rydw i wedi bod a pharch mawr at Dave Haller erioed. Fe wnaeth o gymryd nofiwr dibrofiad a fy nhroi i’n fedalydd Olympaidd erbyn fy mod i’n 19 oed.”
“Rydw i wedi mwynhau fy amser yn Loughborough. Roedd y cyfleusterau wedi fy helpu i symud ymlaen i’r lefel nesaf yn fy ngyrfa.”