Mae dynion arfog wedi saethu o leiaf 45 o bobol yn farw yn ninas fwyaf Pacistan, Karachi.

Mae cerbydau a siopau wedi cael eu rhoi ar dan yno hefyd, ac mae ysgolion a busnesau wedi cau o achos yr ansefydlogrwydd.

Dechreuodd y trais ar ôl i wleidydd lleol, Raza Haider, gael ei saethu’n farw ynghyd â’i warchodwr ddoe, wrth baratoi i weddïo mewn mosg.

Dyw’r awdurdodau ddim yn gwybod pwy sy’n gyfrifol am y llofruddiaeth na’r trais a ddilynodd ar hyn o bryd.

Roedd Raza Haider yn aelod o blaid wleidyddol Symudiad Muttahida Qaumi, sydd mewn grym yn y ddinas ac sy’n bennaf gynrychioli disgynyddion mewnfudwyr Urdu o’r India, a aeth i Bacistan pan grëwyd y wlad yn 1947.

Eu prif elynion gwleidyddol yw Plaid Genedlaethol Awami, sy’n blaid genedlaetholgar seciwlar, sydd â’u cefnogaeth gryfaf yng ngogledd orllewin Pacistan a’r gymuned Pashtun yn Karachi.

Mae dros 16 miliwn o bobol yn byw yn Karachi, a hi yw canolfan ariannol y wlad.

Mae gan y ddinas hanes hir o wrthdaro gwaedlyd sydd wedi ei hybu gan wleidyddiaeth, cefndir ethnig a chrefydd.

Credir hefyd fod y ddinas yn guddfan i aelodau o’r Taliban ac al Qaida.