Mae gyrrwr tractor meddw wedi lladd 17 o bobol yn China.

Fe ddechreuodd Li Xianliang, 38 oed, yrru ei dractor yn rhanbarth ogleddol Hebei ar ôl lladd ei fos yn y storfa lo lle’r oedd o’n gweithio.

Mae’n debyg bod y ddau wedi mynd i ddadl am arian wrth yfed, ond dyw hi ddim yn amlwg pam bod Li Xianliang wedi penderfynu ymosod ar weddill y gymuned.

Gyrrodd i lawr y ffordd gan daro ceir, bysiau, beiciau modur, tryciau a sawl siop.

Ataliodd o’r diwedd mewn cae a llwyddodd yr heddlu i’w dawelu. Fe fydd yn wynebu’r gosb eithaf os ydi’r llys yn penderfynu ei fod o’n euog o lofruddiaeth.

Mae China wedi dioddef cyfres o ymosodiadau ar hap eleni, fel arfer gan wallgofion gyda chyllyll sy’n ymosod ar feithrinfeydd ac ysgolion cynradd.

Mae’r llywodraeth wedi penderfynu atal y cyfryngau rhag darlledu gormod o fanylion ynglŷn a’r ymosodiadau, gan bryderu eu bod nhw’n mynd i sbarduno mwy o ddigwyddiadau tebyg.