Mae’r Scarlets wedi dweud mai Robin McBryde fydd hyfforddwr blaenwyr newydd y rhanbarth ar gyfer y tymor nesaf.
Fe fydd cyn fachwr y Sacrlets yn cyfuno ei swydd newydd gyda’i rôl fel hyfforddwr cynorthwyol Cymru.
Mae’r cytundeb newydd yma’n rhoi cyfle iddo hyfforddi ar lefel rhanbarthol am y tro cyntaf gyda’r clwb lle ddechreuodd ei yrfa chwarae dros 15 mlynedd yn ôl.
Fe chwaraeodd y capten poblogaidd o Ogledd Cymru dros y Scarlets am y tro cyntaf ym 1994 ac fe chwaraeodd 250 o gemau i Lanelli a’r Scarlets.
Cafodd ei benodi i’r garfan genedlaethol fel hyfforddwr y blaenwyr pedair blynedd yn ôl o dan reolaeth Gareth Jenkins ac mae wedi parhau â’i swydd o dan Warren Gatland.
Penodwyd ef yn brif hyfforddwr Cymru ar daith y Cymry i Ganada ac America’r llynedd.
Fe fu McBryde yn rhan o dîm hyfforddi Academi’r Scarlets yn ystod tymor 2005-2006 gan ddatblygu talent ifanc fel Josh Turnbull a Jon Davies.
Mae’r tymor nesaf yn ei weld yn gweithio’n llawn amser o dan reolaeth y prif hyfforddwr Nigel Davies o Awst 1af 2010, ar wahân i’r cyfnodau rhyngwladol yn ystod Cyfres yr Hydref, pencampwriaeth y Chwe Gwlad a’r paratoadau ar gyfer Cwpan y Byd 2011.
Fe fydd Robin McBryde yn parhau o dan ymbarél Undeb Rygbi Cymru ar secondiad gyda’r rhanbarth ac fe fydd yn cael ei dalu gan y Scarlets pan fydd yn gweithio o fewn eu system.
Mae’r cytundeb wedi cael cymeradwyaeth pob un o’r rhanbarthau ac wedi ei gwblhau ar y cyd â Rygbi Rhanbarthol Cymru.
‘Datblygu gyrfa’
“Rydw i’n ddiolchgar iawn am y cyfle yma ac am fwy o gyfrifoldeb pan nad ydw i yn hyfforddi gyda charfan Cymru,” meddai McBryde.
“Fe fydd yn gwneud lles i fy natblygiad personol i ac fe fydd yn ei dro yn cael effaith bositif ar y chwaraewyr yr ydw i’n eu hyfforddi.
“Yn amlwg, mae’n braf cael gweithio gyda pobol ydach chi’n eu hadnabod ac mae fy nealltwriaeth i o’r Scarlets yn mynd i fod o gymorth. Ond mae hefyd yn rhoi cyfle gwych i mi gamu ymlaen yn fy ngyrfa.
“Dydw i erioed wedi hyfforddi ar lefel rhanbarthol o’r blaen ac fe fydd yna heriau gwahanol yn fy wynebu. Rydw i yma i gynnig gymaint ag y gallaf ond i ddysgu hefyd.”
‘Profiad’
Mae Prif Hyfforddwr y Scarlets, Nigel Davies yn credu y bydd y rhanbarth Cymreig yn elwa o brofiad helaeth cyn fachwr Cymru.
“Mae Robin yn brofiadol iawn. Fe fydd o’n gyfle gwych i ni gymryd mantais o’i brofiad ar y lefel uchaf,” meddai Davies.
“Fe fydd yn ddylanwad positif ar y grŵp hyfforddi ac rwy’n siŵr y bydd ganddo syniadau newydd a digon o egni i’w gynnig.
“Mae Robin wedi dangos ymrwymiad a theyrngarwch arbennig tuag at Llanelli. Mae o wedi gweithio gyda nifer o’n chwaraewyr yn ddiweddar ac mae e’n deall beth yw ystyr bod yn Scarlet.”