Mae bocsiwr wedi cael ei garcharu am bum mlynedd ar ôl iddo ladd milwr o Sir Benfro mewn ymosodiad ar stryd yn Newcastle.
Fe drawodd Michael Ridley y milwr Chris Chacksfield a’i wraig, Adele, nyrs ym Myddin Prydain, wrth iddynt gerdded law yn llaw ar noswaith allan yn Newcastle.
Roedd y cwpl wedi cwrdd yn y fyddin ac wedi gwasanaethu yn Afghanistan. Roedd Chris Chacksfield o Hwlffordd wedi dychwelyd o Afghanistan y mis cynt.
Roedd yn treulio cyfnod ymarfer gyda’r fyddin yng ngogledd ddwyrain Lloegr ac roedd ganddo noswaith rydd pan ymosodwyd arno.
Fe gyfaddefodd Michael Ridley i gyhuddiad o ddynladdiad a chlwyfo anghyfreithlon. Clywodd y llys y gallai Michael Ridley gael ei ryddhau ar ôl hanner y ddedfryd.
“Roedd hyn yn drasiedi gafodd ei achosi gan eich ymddygiad,” meddai’r barnwr Esmond Faulks yn Llys y Goron Newcastle.
Llun: Michael Ridley – wedi pleidio’n euog o ddynladdiad