Mae swyddogion fforensig o’r Heddlu Metropolitan wedi bod wrthi’n archwilio adeilad arall yng Nghaernarfon heddiw.
Mae arwyddion yn rhybuddio’r cyhoedd i gadw allan o hen dŷ sydd wedi ei fyrddio yn Stryd yr Eglwys o fewn muriau’r hen dref, tra bod swyddogion heddlu mewn dillad gwyn a masgiau wedi bod yn cribinio trwy’r eiddo.
Yn ôl ffynonellau lleol, mae’r adeilad o’r ail ganrif ar bymtheg yn eiddo i Aly Akbar Khan, y dyn 52 oed o’r dref sydd wedi ei gyhuddo o droseddau’n ymwneud â chyffuriau ar ôl cael ei holi gan yr Heddlu Metropolitan dros y penwythnos.
Roedd yr heddlu eisoes wedi archwilio ty yn Ael y Garth a thy yn Stryd Hamton yn y dref mewn cysylltiad a’r achos.