Fe glywodd gwasanaeth coffa i’r cyn-bencampwr snwcer Alex ‘Hurricane’ Higgins iddo ei chael hi’n anodd dygymod ag enwogrwydd ac arian.
Roedd cannoedd o bobl wedi ymgynnull yn Eglwys Gadeiriol Sant Anne yn ninas Belffast heddiw i gofio am y Gwyddel a bu farw mis diwethaf yn 61 oed yn dilyn brwydr hir gyda chanser ac alcohol.
Yn dilyn angladd yn y cartref teuluol ar Roden Street yn ne’r ddinas, fe aeth cynhebrwng trwy ganol Belffast gyda channoedd o bobl yn y strydoedd i gymeradwyo chwaraewr dawnus.
Fe ddywedodd Deon Belffast, Houston McKelvey bod Alex Higgins wedi cael enwogrwydd ac arian yn ifanc iawn.
“Roedd Alex wedi cyfarfod a dau o’r temtasiynau mwyaf posib – enwogrwydd ac arian yn ifanc iawn,” meddai Houston McKelvey.
“Roedd wedi ei chael hi’n anodd dygymod gyda’r ddau. Nid ef oedd y cyntaf ac yn sicr nid ef bydd y diwethaf.”
Pencampwr
Alex Higgins oedd pencampwr snwcer ifancaf y byd pan enillodd y goron yn 1972. Fe aeth ymlaen i ennill y gystadleuaeth am yr ail dro yn 1982.
Roedd yn ffigwr dadleuol o fewn y gêm ac fe gafodd ei wahardd am bum cystadleuaeth yn 1986 ar ôl iddo daro cyfarwyddwr Pencampwriaeth y Deyrnas Unedig, Paul Hatherell. Yn 1990 fe gafodd ei wahardd am weddill y tymor ar ôl taro cyfarwyddwr ym Mhencampwriaeth y Byd.
Er gwaethaf hyn, roedd ei steil o chwarae wedi ysbrydoli cenhedlaeth i chwarae’r gêm gyda’i ddylanwad yn cael ei weld ar chwaraewyr fel Jmmy White a Ronnie O’Sullivan.
Roedd Jimmy White yn bresennol yn yr angladd ac fe nododd ei rwystredigaeth nad oedd
Alex Higgins yn berson oedd yn gwrando ar ei deulu a’i ffrindiau.
“Ond roedd Alex yn unigolyn -yn ddyn ei hun. Fe fyddaf yn ei golli tan y diwedd,” nododd Jimmy White.