Mae awdur wedi dweud yng nghylchgrawn Tu Chwith heddiw fod gan yr Eisteddfod Genedlaethol “fonopoli ar feirniadaeth gyfoes,” yn y cyd-destun llenyddol.

Mewn ysgrif yn Tu Chwith, mae Rhodri Llŷr Evans yn datgan mai “cyfrolau Y Fedal Ryddiaith a Gwobr Goffa Daniel Owen yw’r ddau lyfr ffuglen sy’n derbyn y mwyaf o sylw gan y wasg drwy gydol y flwyddyn” yn ogystal â gwerthu orau rhwng eisteddfodau ac felly bod y llyfrau hyn “bron yn sicr yn ymddangos ar restrau Llyfr y Flwyddyn.”

Mae’n dweud hefyd fod “awduron y cyfrolau hyn eu dyrchafu’n Brif Lenorion Cymru er eu bod, efallai, yn awduron newydd” a beirniaid y gystadleuaeth yn “gyn-enillwyr eisteddfodau cenedlaethol blaenorol” ac felly’n “ymwybodol o rôl ddiwylliannol y sefydliad.”

‘Cyffion’

“Hynny ydi, nid oes dim na neb arall a all (yn eironig ddigon) gystadlu â’r
Eisteddfod Genedlaethol, ac mae hynny’n gyffion am draed ein
Llenyddiaeth greadigol gyfoes. Rhaid wrth sefydliadau amgen a all gynnig gwobrau ariannol teg a chyfleoedd a chyhoeddusrwydd a chefnogaeth i’n hawduron newydd,” meddai Rhodri Llŷr Evans ei ysgrif.

“Os oes gan yr Eisteddfod Genedlaethol frîff diwylliannol-wleidyddol (yn sicr, mae’n bodoli ar lefel isymwybodol os nad cwbl ymwybodol), yna dylid nodi hynny yn rhestr y testunau. Fel arall, nid yw’n deg i’r un ymgeisydd sy’n cynnig nofel neu gyfrol i’r gystadleuaeth,” meddai.

Gweisg – cystadlaethau

Yn ychwanegol, mae’n datgan ‘na ddylid cyhoeddi gwaith buddugol cystadlaethau rhyddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol.

“Ond yn y cystadlaethau rhyddiaith, croesir y llinell drom honno rhwng yr amatur a’r proffesiynol yn flynyddol a’r canlyniad yw cyhoeddi cynnyrch isel-ei-safon yn rheolaidd. Rhwydd hynt i’r awdur buddugol dderbyn coron neu fedal am ei lwyddiant, a gwobr ariannol hefyd, ond peth i weisg ac i’r awdur unigol a’i olygyddion yw cyhoeddi.”

Un ateb posibl meddai’r awdur yw i’n “gweisg amlycaf ni yma yng Nghymru sefydlu eu cystadlaethau eu hunain ar gyfer ein hawduron a’n darpar awduron.”

Fe fyddai hynny meddai, yn “codi safon ein cynnyrch cyhoeddedig, ac yn ei dro yn esgor ar feirniadaeth lenyddol sydd wedi ei datgysylltu oddi wrth ddyletswyddau diwylliannol-wleidyddol yr Eisteddfod.”

Mi fyddai hynny hefyd yn ôl yr awdur, yn “caniatáu i’r Eisteddfod Genedlaethol ganolbwyntio yn llwyr ar ei rôl fel sefydliad amatur a allai roi llwyfan i dalent egin-nofelwyr Cymraeg.”