Mae’r nifer o bobl sy’n teithio ar drenau’n dechrau cynyddu unwaith eto ar ôl y dirwasgiad.

Roedd 681 miliwn o bobl wedi teithio ar drenau yn ystod chwe mis cyntaf eleni – cynnydd o 5.1% ar yr un cyfnod yn 2009.

Roedd teithiau ar drenau wedi codi 4.4% yn y tri mis cyntaf ac yna 6.1% rhwng mis Ebrill a Mehefin.

Mae’r cynnydd mwyaf i’w gweld ar deithiau hirbell gyda chynnydd o 7% am y tri mis cyntaf a 7.7% rhwng mis Ebrill a Mehefin.

Dywedodd Michael Roberts, Prif Weithredwr cymdeithas y cwmnïau trenau, ATOC, Michael Roberts fod y cynnydd yn y galw’n “galonogol iawn i’r diwydiant trenau a’r economi.”

“Ond mae’n allweddol nad ydyn ni’n cymryd yr adferiad yn ganiataol. Mae’r bygythiad i’r economi i lithro’n ôl mewn i ddirwasgiad yn real ac yn ddifrifol,” meddai.

“Fe fydd y cwmnïau trenau’n parhau i weithio’n galed i ddenu cwsmeriaid i’r rheilffyrdd a chwarae eu rhan yn helpu sicrhau parhad i adferiad economaidd y wlad,” ychwanegodd.