Ddylai gwleidyddion ddim defnyddio’r iaith i hollti cymdeithas, meddai’r Archdderwydd wrth gefnogi’r ymgyrch tros gartref newydd i ysgol Gymraeg yng Nghaerdydd.
Roedd y penderfyniad i wrthod rhoi cartref newydd i Ysgol Treganna’n “gam gwag”,” meddai T. James Jones wrth siarad o’r Maen Llog yn y seremoni i dderbyn aelodau newydd i’r Orsedd.
“Gobeithio nad diffyg ewyllys yw’r broblem na, gwaeth na hynny, casineb at yr iaith,” meddai wedyn gan apelio ar Gyngor y Ddinas a’r Llywodraeth i gydweithio i ddatrys yr hyn oedd, meddai, yn “broblem llwyddiant”.
Protest
Ddydd Gwener, fe fydd Grŵp Ymgyrchu rhieni’r ysgol yn cynnal protest y tu allan i uned Llywodraeth Cynulliad Cymru ar faes yr Eisteddfod er mwyn tynnu sylw at yr hyn y maen nhw’n ei alw’n “argyfwng”.
Maen nhw’n cyhuddo’r Prif Weinidog, Carwyn Jones o atgyfodi’r ‘Welsh Not’ wrth wrthod yr hawl i Gyngor Dinas Caerdydd uno ysgolion cyfrwng Saesneg a rhoi adeilad gwag i Ysgol Treganna a Than yr Eos.
Maen nhw wedi cyhoeddi datganiad gan yr Archdderwydd yn dweud bod yr amodau yn yr Ysgol Gymraeg yn “echrydus” oherwydd gormod o ddisgyblion.
“Mae’r ystafell ddosbarth anghenion arbennig yn ddim mwy na chwpwrdd ac mae’n warth ei bod hi’n rhaid i ddisgyblion ac athrawon ddioddef amgylchiadau o’r fath yn yr unfed ganrif ar hugain.”
‘Fel y dur’
Roedd gan yr Archdderwydd neges arall i wleidyddion o’r Maen Llog- y tro yma i Brif Weinidog Prydain, David Cameron.
Roedd ei syniad am y Gymdeithas Fawr yn ffordd o fyw i lawer o Gymry eisoes, meddai, gan gynnwys y gwirfoddolwyr sy’n trefnu’r Eisteddfod o flwyddyn i flwyddyn.
Ac wrth siarad yng nghysgod un o hen beiriannau Gwaith Dur Glyn Ebwy, fe alwodd ar Gymry Cymraeg i fod “mor gryf â haearn tros yr iaith ac mor ystwyth â dur i ddenu ein cyd-Gymry naill ai i’w dysgu hi neu i’w hystyried hi’n drysor amhrisiadwy”.
Llun: Mary Idris, yr aelod gyntaf i’w hurddo i’r Orsedd eleni