Mae’r mudiad amgylcheddol Greenpeace yn galw ar y Llywodraeth i roi stop ar gynlluniau gan y cwmni olew BP i dyllu am olew gerllaw ynysoedd y Shetland.

Mae BP yn awyddus i dyllu i ddyfnderoedd o 4,265 troedfedd mewn maes 60 milltir i’r gorllewin o’r ynysoedd – a bydd y gwaith yn dechrau ym mis Hydref os caiff gymeradwyaeth y Llywodraeth.

Yn sgil trychineb olew Gwlff Mecsico, mae Greenpeace yn galw am foratoriwn ar ddrilio dwfn o dan y môr – sydd eisoes wedi cael ei gyflwyno yn America ond sydd wedi cael ei wrthod gan weinidogion Prydain hyd yma.

Meddai llefarydd y mudiad ar ynni, Joss Garman:

“Mae’r Arlywydd Obama wedi cyflwyno moratoriwm ar ddrilio dwfn o dan y môr hyd nes y bydd yn deall beth a achosodd drychineb BP. Ond mae’r glymblaid yma [ym Mhrydain] yn ymddwyn fel pe na bai’r gollyngiad olew yn y Gwlff erioed wedi digwydd.

“Fe fyddai gollyngiad tebyg gerllaw arfordir yr Alban yn creu difrod enbyd i gynefinoedd bregus a bioamrywiaeth, a hefyd i adferiad economaidd Prydain.”