Mae banc HSBC wedi cyhoeddi elw cyn trethi o £7bn am chwe mis cyntaf 2010.

Mae elw’r cwmni wedi codi 121% gyda dyledion drwg yn disgyn i’w lefel isaf ers i’r dirwasgiad ddechrau.

Dywedodd HSBC bod colledion ar fenthyciadau wedi lleihau 46% ond roedd cyllid masnachu wedi cael ei daro gan anwadalwch y farchnad stoc.

Fe nododd y banc bod benthyciadau wedi cynyddu 4% ar draws pob un o’u rhanbarthau ers diwedd llynedd.

Fe gynyddodd cyfranddaliadau HSBC 4% ar ôl i’r newyddion o’u helw cael eu cyhoeddi.

Mae Ysgrifennydd Busnes Llywodraeth San Steffan, Vince Cable wedi galw ar fanciau i fenthyg mwy i fusnesau bach.

Ond mae’r banciau’n dweud bod y nifer o fenthyciadau y maen nhw’n gallu eu caniatáu yn cael ei gyfyngu oherwydd rheolau sy’n ei gwneud hi’n ofynnol iddyn nhw gael symiau mwy o gyllid ar eu mantolenni.