Mae’r Canghellor George Osbone wedi rhybuddio’r banciau ei bod hi’n “ddyletswydd economaidd” arnyn nhw i roi benthyg.

Daw ei sylwadau yn sgil pryderon cynyddol am drafferthion busnesau wrth gael credyd ar y naill law, a rhagolygon y bydd y ffigurau hanner blwyddyn diweddaraf y banciau’n datgelu biliynau o bunnau mewn elw ar y llaw arall.

Mae disgwyl y bydd HSBC yn cyhoeddi elw o tua £5.5 biliwn yfory, ac mae’n debygol y bydd y banciau sydd wedi eu lled-wladoli hefyd yn dechrau dangos elw.

Bydd hyn yn sicr o ddwysau’r pwysau ar y llywodraeth i orfodi’r banciau i godi eu lefelau benthyg – a defnyddio’u helw i gynyddu llif credyd yn hytrach na thalu taliadau bonws a difidend anferthol.

“Mae pob cwmni bach a chanolig ei faint yr ydw i wedi ymweld â nhw dros yr wythnosau diwethaf wedi cael yr un broblem gyda’u banc – maen nhw naill ai wedi ei chael hi’n anodd adnewyddu eu gorddrafft, neu mae’r banciau wedi mynnu sicrwydd
ychwanegol, yn aml tŷ rhywun,” meddai’r Canghellor.

“Mae hyn yn arwain at berygl o brinder cyfalaf gweithio i’r busnesau yma.

“Rhaid i’r banciau ddeall fod ar y Llywodraeth eisiau gweld credyd ar delerau rhesymol ar gael yn y sector busnesau bach a chanolig.”