Mae gan Forgannwg gyfle da i guro Gloucestershire a chryfhau eu safle tua brig Ail Adran Pencampwriaeth yr LV=.

O gael ychydig yn rhagor o rediadau yn eu hail fatiad, fe fyddan nhw’n gallu gosod targed caled iawn i’r tîm o Gaerloyw yn eu gêm yn Cheltenham.

Marc Cosgrove oedd arwr yr ail fatiad gyda 123 wrth i Forgannwg gyrraedd 283 am 7 – fwy na 250 ar y blaen.

Gyda Mark Wallace ar 51 heb fod allan a Robert Croft ar 17, fe fyddan nhw’n gobeithio am ragor o rediadau cyflym – fe sgoriodd y naill a’r llall 72 a 44 yn y batiad cyntaf.

Ynghynt, ym matiad, Gloucestershire, roedd Jim Dalrymple wedi cael ei ffigurau bowlio erioed gyda 5 am 59, ac roedd dwy wiced yr un i Huw Waters a Dean Cosker ac un i Croft.

Ar hyn o bryd, mae Morgannwg yn ail yn yr Adran, a Swydd Caerloyw’n drydydd.

Llun: Mark Cosgrove