Artistiaid sydd wedi symud i Gymru oedd enillwyr y prif wobrau celf yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Celfyddyd Gain

Mae enillydd y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain, Simon Fenhoulet, wedi llwyddo i gyfuno careiau gyda stribedi golau i greu math o gerfluniau goleuni.

Mae’n ennill £3,000 o wobr ariannol hefyd ac yntau’n arddangos yn yr Eisteddfod am y tro cynta’.

Yn ôl y beirniaid, roedd wrth ei fodd yn defnyddio golau i drawsnewid pethau a’u gosod mewn llefydd anarferol.

Mae’r arddangosfa gelf a chrefft eleni o dan ddaear yn un o hen adeiladau gwaith dur Glyn Ebwy.

Dyfarnwyd £2,000 i newydd-ddyfodiad arall i’r Eisteddfod, Nerea Martinez de Lecea, sydd bellach yn byw yn y Rhondda ar ôl body n ne Lloegr am gyfnod. Roedd ei gwaith hi wedi “syfrdanu’r detholwyr”.

Crefft a Dylunio

Artist o Bortiwgal a Chaerdydd sydd wedi cipio’r Fedal Aur am Grefft a Dylunio am ddarnau o gerameg sy’n canolbwyntio ar y galon ddynol.

Yn ôl un o’r beirniaid, ei gwaith cerameg hi oedd “y darnau mwyaf angerddol a harddwych” yr oedd wedi ei weld yn y cyfrwng “ers amser maith”.

Mae Natalia Dias, a symudodd o Bortiwgal i Loegr ac wedyn i Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd y llynedd, yn derbyn y fedal a gwobr o £3,000.

Mae hi nawr yn gweithio yn Stiwdios Clai Fireworks yn y brifddinas ac, meddai yn tynnu ei dylanwad o Bortiwgal a’i hyfforddiant yng Nghymru.

Llyn: Y fynedfa i’r Lle Celf dan ddaear