Mae’r heddlu yn Llundain wedi bod yn dal i holi dau ddyn o Gaernarfon heddiw ynglŷn â phecynnau ffrwydrol.

Fe gafodd y ddau – sy’n 52 a 21 oed ac, yn ôl pobol leol yn dad a mab – ar ôl darganfod y ddau becyn. Daethpwyd o hyd i un yn adeilad y gwasanaeth ysbïo MI6 yn gynnar brynhawn Mercher a’r llall mewn swyddfa didoli post fore Iau.

Mae heddlu hefyd yn chwilio yng nghartrefi’r ddau mewn strydoedd cyfagos yng Nghaernarfon – Ael y Garth a Stryd Hampton.

Yn ôl yr heddlu, a gafodd amser ychwanegol i holi’r ddau, maen nhw’n cael eu dal o dan ddeddf ffrwydron yn hytrach na deddfau terfysgol.

Llun: Adeilad MI6 (Tagishsimon_TrwyddedGNU)