Cyn Weinidog Treftadaeth yw’r diweddara’ i ymuno yn helynt S4C trwy fynnu bod rhaid i’r Sianel ddweud pam yn union fod y Prif Weithredwr wedi gadael.

Ac roedd yn hanner-cyhuddo rhai o aelodau o Awdurdod y sianel o fod yn cynllwynio i gael gwared ar Iona Jones.

Mae’n “gwbl annerbyniol” bod Awdurdod S4C yn gwrthod rhoi esboniad, meddai Rhodri Glyn Thomas – unwaith eto ddoe roedd llefarwyr ar ran y sianel yn gwrthod dweud dim.

Fe alwodd am ymchwiliad llawn i’r hyn oedd wedi digwydd.

‘Swydd gyhoeddus’

“Mae’n swydd gyhoeddus,” meddai Rhodri Glyn Thomas wrth siarad ar Radio Wales. “Mae’r ffordd y mae’r Awdurdod wedi gweithredu yn annerbyniol.”

Yn ôl Rhodri Glyn Thomas, dyma’r amser gwaetha’ i newid Prif Weithredwr, gyda bygythiad o doriadau ariannol mawr.

“Dw i’n poeni bod rhai o aelodau’r Awdurdod wedi bod yn aros am eu cyfle i gael gwared ar Iona Jones.”

Sylwadau’r Prif Weithedrwr tros dro fan hyn