Mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi trefnu cyfres o sgyrsiau a thrafodaethau yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy a Blaenau’r Cymoedd, er mwyn trafod “pynciau llosg” Cymru.

Bydd hawliau dynol, “arwyr Cymru” a’r iaith Gymraeg, yn rhai o’r materion fydd yn cael eu trafod ym Mhebyll y Cymdeithasau.

Mi fydd cyn-gadeirydd S4C a Chadeirydd presennol Bwrdd Adfer Ynys Môn, Elan Closs Stephens, hefyd yn trafod yr heriau sy’n wynebu gwasanaethau cyhoeddus y wlad.

A bydd yr academydd a’r sylwebydd gwleidyddol, Richard Wyn Jones, yn trafod y refferendwm dros ddatganoli grymoedd deddfu llawn o San Steffan i Fae Caerdydd.

Bydd Llywydd y Cynulliad, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, hefyd yn arwain trafodaeth ar gyfansoddiad Cymru, a’i effaith yn y dyfodol.

‘Gwasgfa’

“Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ymrwymo i annog mwy o gyfranogiad yn y broses wleidyddol yng Nghymru,” meddai’r Arglwydd Elis-Thomas.

“Sylfaen yr ymrwymiad hwnnw yw cael pobol i drafod pynciau llosg yr oes, fel pwerau’r Cynulliad yn y dyfodol neu’r pwysau sydd ar ein gwasanaethau cyhoeddus oherwydd y wasgfa ar wariant cyhoeddus.

“Mae’r sesiynau yma yn rhan o broses barhaus lle mae’r Cynulliad yn ceisio sbarduno ac annog cyfranogiad yn y broses ddemocrataidd ehangach ac mewn datganoli, drwy ganolbwyntio ar y pynciau sydd o bwys i bobol Cymru.”

Rhaglen y trafodaethau yn yr Eisteddfod:

“Casineb, Cyfartaledd a Chyfiawnder: Tri gair i groniclo’r 21ain Ganrif?”
Fflur Jones yn ystyried pwysigrwydd y Ddeddf Hawliau Dynol.
31 Gorffennaf – 12.00 Pabell y Cymdeithasau 1

“Gwalia, O Walia! Argyfwng y Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru.”
Elan Closs Stephens yn bwrw golwg ar ddyfodol gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
2 Awst – 12.00 Pabell y Cymdeithasau 2

“Llyncu’r Mytholegau; Y Cymry a’u Harwyr.”
Hywel Williams yn taflu golwg ar arwyr Cymru ac yn gofyn ‘a ydyn ni’n ymddiried gormod yn ein harwyr?’
3 Awst – 13.15 Pabell y Cymdeithasau 1

“Dyfodol y cyfansoddiad.”
Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC yn ystyried cyfeiriad cyfansoddiadol Cymru.
4 Awst – 11.00 Pabell y Cymdeithasau 1

Richard Wyn Jones yn trafod y rhagolygon ar gyfer y refferendwm.
5 Awst – 16.00 Pabell y Cymdeithasau 2

“Dyfodol yr iaith a Mesur y Mesur.”
Emyr Lewis a Meri Huws yn bwrw golwg ar Fesur arfaethedig y Gymraeg yng nghyd-destun ymdrechion i ddatblygu defnydd yr iaith.
6 Awst – 13.00 Pabell y Cymdeithasau 1