Mae un o gyfarwyddwyr enwog sioeau’r West End wedi dweud ei bod hi’n fraint gael bod yn rhan o gyngerdd agoriadol yr Eisteddfod Genedlaethol.

Bydd Ken Caswell, sy’n wreiddiol o Frynmawr ger Glyn Ebwy, yn cyfarwyddo cyngerdd Only Men Aloud! ar nos Wener gyntaf y brifwyl.

“Wnes i erioed feddwl y bysen nhw’n gofyn i mi, oherwydd yr iaith,” meddai’r cyfarwyddwr, sy’n byw yn y Fenni ar ôl gyrfa faith yn Llundain ac yn teithio’r byd.

“Gan ei fod yn digwydd yn yr ardal yma, mae gan rywun gysylltiad emosiynol. Mae’r Eisteddfod yn beth gwych.

Ar gyfer cyngerdd y Brifwyl, mae Ken Caswell ac arweinydd Only Men Aloud!, Tim Rhys Evans, wedi dramateiddio’r hen ganeuon Cymraeg cyfarwydd.

Y bwriad yw dweud hanes y corau meibion yn y Cymoedd ar gân – a bydd chwe chôr meibion yn ymuno ag Only Men Aloud! tua’r diwedd.

Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg yr Eisteddfod