Mae chwaraewr canol cae Cymru, Joe Ledley wedi mynnu nad yw gobeithion Celtic o chwarae yng Nghynghrair y Pencampwyr drosodd er iddyn nhw golli 3-0 yn erbyn Braga neithiwr.
Fe arwyddodd Ledley gyda chewri pêl droed yr Alban o glwb Gaerdydd yn gynharach yn yr haf, ac roedd cael y cyfle i chwarae’n gyson yng nghystadlaethau Ewrop yn un o’r prif resymau dros ymuno â Celtic.
Ond mae tîm Neil Lennon ar fin gadael prif gystadleuaeth Ewrop ar y cam cyntaf yn dilyn y canlyniad gwael ym Mhortiwgal neithiwr.
Er gwaetha’r dasg sy’n wynebu Celtic yn yr ail gymal, mae Ledley yn ffyddiog fod dal modd iddynt ennill eu lle yn y rownd nesaf.
“Doedd pethau ddim i fod fel hyn, ac r’y ni’n siomedig gan na wnaethon ni chwarae’n dda,” meddai Ledley.
“Efallai nad oedd y bois newydd wedi cael amser i gyfarwyddo â’i gilydd, ond roedden ni wedi chwarae’n iawn yn y gemau cyfeillgar.
“Fe fydd rhaid i ni fynd mewn i’r gêm gartref yn chwilio am dair neu bedair gôl. Mae’n bosib y gwnawn ni eu curo nhw, ond fe fydd rhaid i ni ymosod o’r cychwyn.
“Roedd chwarae yng Nghynghrair y Pencampwyr yn un o’r prif resymau i mi ymuno gyda’r clwb – mae pawb eisiau chwarae yn y gystadleuaeth yma.
“Ges i’r cyfle i ymuno â chlybiau eraill, ond rydw i wedi dod yma i ennill tlysau a chwarae yng Nghynghrair y Pencampwyr. Rwy’n gobeithio y galla’i wneud hynny gyda Celtic.”