Mae amddiffynnwr Abertawe, Angel Rangel, yn gwadu ei fod o ar fin symud i un o glybiau’r Uwch Gynghrair, gan fynnu ei fod o’n awyddus i aros gyda’r Elyrch.

Yn ôl y sôn Blackpool yw’r clwb diweddaraf sy’n fodlon talu £1m am y Sbaenwr, ar ôl i Fulham a Wigan ddangos diddordeb yn y gorffennol.

Er gwaetha’r sïon mae Rangel wedi dweud wrth y rheolwr newydd Brendan Rodgers ei fod o am aros gydag Abertawe.

“Rydw i wedi dweud wrth y bos a’r cadeirydd fy mod i’n hapus yma,” meddai’r amddiffynnwr wrth bapur y Western Mail.

“Mae’r rheolwr yn gwybod fy mod i wedi fy nghysylltu gyda chlybiau eraill.

“Ond mae o wedi dweud ei fod yn awyddus i mi fod yn rhan bwysig o’r tîm. Mae wedi dweud ei fod fy eisiau i fan hyn ac rydw i wedi dweud yr un peth.

“Mae wedi rhoi’r rhyddid i mi ymosod ac rwy’n mwynhau ochr yna’r gêm.”

Dywedodd Angel Rangel nad yw’r sïon cyson sy’n ei gysylltu gyda chlybiau eraill yn effeithio arno a’i fod o’n canolbwyntio ar y tymor newydd gydag Abertawe.

“Mae pob haf yr un peth. Ond rwy’n canolbwyntio ar Abertawe a gweithio’n galed ar gyfer y tymor newydd,” meddai.