Mae maswr newydd y Dreigiau, Matthew Jones, yn gobeithio y bydd ymuno gyda’r rhanbarth yn ail-danio ei yrfa yn dilyn cyfnod siomedig gyda Chaerwrangon.

Mae cyn faswr y Gweilch, sydd wedi ennill un cap i Gymru, yn gobeithio am dymor heb anafiadau wrth iddo geisio hawlio’r crys rhif deg.

Fe arwyddodd cytundeb dwy flynedd gyda’r Dreigiau ac fe fydd yn cystadlu gyda Jason Tovey a’r chwaraewyr ifanc Lewis Robling a Steffan Jones am safle y maswr.

“Rwy’n hapus iawn i ymuno gyda’r Dreigiau ac mae’n braf cael bod ‘nôl yn chwarae yng Nghymru,” meddai Jones.

“Mae symud i glwb newydd yn gallu bod yn anodd, ond rydw i wedi setlo i mewn ac mae yna griw da o fois yma.”

Wrth i Gwpan y Byd agosáu’r flwyddyn nesaf, mae Matthew Jones yn targedu chwarae i Gymru unwaith eto.

“Ar ôl dwy flynedd yn Lloegr fe fydd rhaid i mi sefydlu fy hun ar y lefel rhanbarthol unwaith eto,” nododd Jones.

“Mae ‘na Gwpan y Byd rownd y gornel ac mae hynny ar fy meddwl i hefyd. Dw i ddim yn siŵr a fydd o’n rhy gynnar i mi ond fe fydden i’n hoffi bod yn rhan ohono.

“Dylai unrhyw un sy’n dweud nad ydyn nhw am chwarae dros Gymru ymddeol o’r gêm. Mae’n freuddwyd i bob bachgen yng Nghymru ac rydw i am chwarae dros Gymru unwaith eto.”