Cyn reolwr Cymru, Mark Hughes yw’r ffefryn newydd i olynu Roy Hodgson yn reolwr newydd Fulham.

Mae’r bwcis yn credu mai cyn rheolwr Cymru a Man City fydd yn cymryd yr awenau yn Craven Cottage.

Fe ddaw hyn ar ôl i reolwr Caerdydd, Dave Jones ddweud nad oedd o wedi clywed dim oddi wrth Fulham a’i fod o’n gwbl ymroddedig i’r Adar Glas.

Mae asiant un o’r ffefrynnau eraill, Sven Goran Eriksson wedi dweud nad ydi Fulham wedi cysylltu gyda nhw ynglŷn â’r swydd wag.

Mae perchennog Fulham, Mohamed Al Fayed wedi dweud nad yw’r clwb yn mynd i ruthro wrth benodi rheolwr newydd.

Ond dim ond tair wythnos sydd i fynd tan ddechrau’r Uwch Gynghrair, ac fe fydd y clwb yn awyddus i roi digon o amser i’r rheolwr newydd baratoi’r garfan ar gyfer eu hymgyrch nesaf.

Yr unig broblem allai atal Mark Hughes rhag ymuno gyda Fulham ydi ei berthynas gyda phrif weithredwr y clwb, Alistair Mackintosh.

Yn ôl y sïon, roedd gan Hughes a MacKintosh berthynas bregus iawn pan oedd y ddau gyda Man City.