Fe fydd dau lyfr Tintin newydd Cymraeg yn cael eu lansio ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Llwybr i’r Lleuad ac Ar Leuad Lawr yw’r cyfrolau diweddaraf i Dafydd Jones eu cyfieithu o’r Ffrangeg.
Ac mi fydd ef, ynghyd â’r cyhoeddwr, Alun Ceri Jones o Dalen, yn cynnal sgwrs a thrafodaeth amdanynt ar y maes.
Bydd y sgwrs yn trafod y straeon a sut aethpwyd ati i’w Cymreigeiddio, ac hefyd yn trafod straeon stribed eraill yn y Gymraeg.
Mae’r lansiad yn digwydd ym Mhabell y Cymdeithasau 2, am 3pm, dydd Mawrth, 3 Awst.
Mae Dalen wedi cyhoeddi chwech llyfr Tintin erbyn hyn.