Mae’r awdurdodau yn Ne Affrica wedi cyhuddo gyrrwr y car fu mewn damwain laddodd gor-wyres Nelson Mandela o lofruddiaeth, ceisio llofruddio ac yfed a gyrru.
Bydd Sizwe Mankazana, 23 oed, yn wynebu achos llys ar 27 Awst yn dilyn marwolaeth Zenani Mandela.
Bu farw’r ferch 13 oed ar 11 Mehefin eleni ar daith ‘nôl o gyngerdd agoriadol Cwpan y Byd yn Ne Affrica.
Mae Sizwe Mankazana yn fyfyriwr yn yr Unol Daleithiau, ond roedd wedi teithio adref i Dde Affrica ar gyfer y gystadleuaeth pêl droed.
Mae ei dad mewn perthynas gydag un o ferched Nelson Mandela ac mae ganddo gysylltiadau agos gyda theulu cyn arlywydd De Affrica.
Penderfynodd Nelson Mandela beidio mynd i seremoni agoriadol Cwpan y Byd De Affrica ar ôl marwolaeth ei or-wyres.