Bydd rhaid i Gyngor Gwynedd wneud arbedion o hyd at £47 miliwn dros y bedair mlynedd nesaf, cyhoeddodd heddiw.
Mae’r ffigwr yn wedi ei seilio ar gyllideb argyfwng diweddar y Canghellor a gyhoeddodd ostyngiad cyfartalog o 25% yng nghyllidebau’r rhan fwyaf o adrannau yn ystod y bedair mlynedd nesaf.
Dywedodd y Cynghorydd John R. Jones, sy’n arwain ar Strategaeth Ariannol y Cyngor, bod “y sefyllfa yn edrych yn ddu iawn”.
“Yn dilyn cyllideb ddiweddar y Canghellor, mae’r her ariannol sy’n wynebu cyrff cyhoeddus a’r cymunedau lleol yr ydym yn eu gwasanaethu yn dechrau dod yn fwy amlwg,” meddai.
“Er na fydd modd cadarnhau’r union sefyllfa tan yr hydref, mae ein tafluniadau cychwynnol yn dangos ei bod yn bosib y bydd angen i ni adnabod oddeutu £47 miliwn o arbedion dros y pedair blynedd sydd i ddod.”
Bydd ffigyrau penodol am sut y bydd y toriadau ariannol yn effeithio ar gynghorau unigol yn cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth y Cynulliad ym mis Tachwedd.
Paratoi
Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyngor Gwynedd, Dilwyn Williams, nad oedden nhw’n gwybod faint o doriadau fyddai eu hangen eto ond bod rhaid paratoi am y gwaethaf.
“Er na fyddwn yn gwybod yn bendant beth fydd lefel y grant yr ydym yn debygol o’i dderbyn am y pedair blynedd nesa’ tan fis Tachwedd mae’n allweddol ein bod yn cynllunio ymlaen llaw os ydym am sicrhau ei fod yn effeithio cyn lleied â phosib ar drigolion Gwynedd,” meddai.
“Mae’r ffaith ein bod eisoes wedi adnabod £12 miliwn o’r arbedion y bydd angen i ni eu cyflwyno yn golygu ein bod mewn sefyllfa gryfach na nifer o gynghorau er mwyn wynebu’r sialens aruthrol hwn.
“Ond, mae maint y toriadau ariannol y byddwn yn eu hwynebu yn golygu y bydd angen i ni gynyddu ein hymdrechion a dechrau ystyried rhai opsiynau radical.”
Torri gwasanaethau
Mae £47 miliwn yn gyfystyr â hanner cyllid addysg Cyngor Gwynedd, neu 87% o gyllideb y Gwasanaethau Cymdeithasol, medden nhw.
Fe fyddai angen torri cyllideb net pob un o wasanaethau Cyngor Gwynedd heblaw Addysg, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gwasanaethau Rheoleiddio er mwyn cyflawni’r toriadau.
“Gyda chefnogaeth drawsbleidiol mae Cyngor Gwynedd eisoes wedi adnabod arbedion o £16 miliwn gyda £12 miliwn ar gael ar gyfer y ddwy flynedd nesaf,” meddai llefarydd ar ran y cyngor.
“Hyd yn oed os byddai Cynghorwyr Gwynedd yn fodlon codi’r Dreth Cyngor 4% ym mhob un o’r pedair blynedd nesaf er mwyn gwarchod gwasanaethau, byddai hyn yn parhau i olygu y gallai’r Cyngor fod angen darganfod £7 miliwn pellach ar gyfer y cyfnod dwy flynedd 2011/12 -2012/13; ynghyd â £21 miliwn pellach ar gyfer y cyfnod dwy flynedd 2013/14 – 2014/15.”