Mae’r Gweinidog dros Faterion Gwledig, Elin Jones wedi croesawu ymchwil newydd sy’n dangos bod bron i hanner y bwyd a diod sy’n cael eu prynu gan y sector cyhoeddus yng Nghymru yn dod o’r wlad.
Yn ôl Arolwg Prynu Bwyd Sector Cyhoeddus 2010, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, gwariodd y sector cyhoeddus yng Nghymru £16.4m ar fwyd o Gymru yn 2009.
Yn 2003, roedd 41.3% o’r bwyd a brynwyd gan y sector gyhoeddus o Gymru. Erbyn 2009, roedd 47.4% o’r cynnyrch o Gymru.
“Mae’r ffigurau yn galonogol iawn. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi blaenoriaethu cael eu bwyd a’u diod yn lleol,” meddai Elin Jones.
“Mae’n braf gweld mwy a mwy o gynnyrch o Gymru’n cael ei brynu gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac awdurdodau lleol.”
Roedd cynnydd o 90% mewn bwyd o Gymru oedd yn cael ei brynu gan awdurdodau lleol rhwng 2003 a 2009, yn ôl yr adroddiad a gyhoeddwyd heddiw.
Blas ar y ffigyrau
• 69% o fwyd Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn dod o Gymru.
• 52.5% o fwyd awdurdodau lleol Cymru yn dod o Gymru.
• 50.92% o lefrith ysgolion Cymru yn dod o Gymru.
• 22.6% o fwyd y weinyddiaeth amddiffyn a’r heddlu yn dod o Gymru. Gostyngiad o 23% yn 2003.