Fe fydd pibell sy’n gollwng olew i Gwlff Mecsico wedi ei selio’n barhaol o fewn pythefnos, cyhoeddodd cwmni BP heddiw.

Fe ddylai ffynnon olew newydd sy’n cael ei thyllu gerllaw gyrraedd y ffynnon sydd wedi ei ddifrodi erbyn y penwythnos, dri mis ar ôl dechrau’r trychineb yng Ngwlff Mecsico.

Ar ôl dyddiau o bryderu ynglŷn â sefydlogrwydd y ffynnon newydd, a’r cap sy’n dal yr olew yn ei le ar ben yr hen ffynnon, mae’r peirianyddion yn hyderus y bydd popeth yn digwydd ar amser.

Dywedodd is lywydd BP, Kent Wells eu bod nhw’n gobeithio selio’r hen ffynnon gyda mwd a sment erbyn diwedd mis Gorffennaf.

“Mae’r ffynnon newydd yn union le’r ydan ni ei heisiau hi. Mae’n wynebu’r cyfeiriad cywir felly rydan ni’n bles,” meddai.

Yn ogystal â saethu mwd a sment drwy’r ffynnon newydd i selio’r hen ffynnon, maen nhw’n ystyried agor y cap sydd ar ben yr hen ffynnon a gollwng mwd drwy hwnnw.

Y nod fydd sicrhau fod yr hen ffynnon olew yn cael ei selio am byth.

Mae’r olew yng Ngwlff Mecsico wedi bod yn gollwng ers i lwyfan Deepwater Horizon ffrwydro, gan ladd 11 o weithwyr, ar 20 Ebrill.