Bydd miloedd o staff y BBC, gan gynnwys newyddiadurwyr a thechnegwyr, yn pleidleisio o blaid neu yn erbyn mynd ar streic ar ôl ffrae dros bensiynau.

Mae undebau darlledu’n dweud fod gan y Gorfforaeth tan ddydd Mercher i ddileu cynlluniau i osod uchafswm ar bensiynau gweithwyr y BBC – neu wynebu streic ym mis Medi.

“Mae rheolwyr y BBC wedi dangos dirmyg llwyr tuag at eu staff yn wyneb neges glir gan weithwyr sydd wedi bod mewn cyfres o gyfarfodydd ymgynghorol dros yr wythnosau diwethaf,” meddai Sue Harris o undeb newyddiadurwyr yr NUJ.

“Mae staff ledled y wlad wedi eu cythruddo gan y cynigion ac fe fyddan nhw hyd yn oed yn fwy anhapus nawr, yn enwedig ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod dirprwy reolwr cyffredinol y BBC, Mark Byford, yn ennill pensiwn o £400,000 y flwyddyn.”

Dywedodd llefarydd ar ran yr NUJ y bydden nhw’n parhau i drafod gydag undebau Bectu ac Unite er mwyn cydweithio i annog y BBC i ddileu’r cynigion presennol.