Mae gobeithion y Crusaders o gyrraedd gemau ail-gyfle’r Super League wedi cael hwb yn dilyn eu buddugoliaeth yn erbyn y Catalan Dragons.

Fe sgoriodd y Crusaders bedwar cais gyda Clinton Schifcofske yn llwyddo gyda phum cic i sicrhau buddugoliaeth 22-20.

Mae’r fuddugoliaeth yn rhoi’r clwb Cymreig pedwar pwynt tu ôl i’r Castleford Tigers yn yr wythfed safle- ond mae gan dîm Brian Noble un gêm ychwanegol i chwarae.

Castleford nesa’

Fe fydd y Crusaders yn wynebu Castleford mewn gêm holl bwysig ar y Gnoll yng Nghastell-nedd ddydd Sul nesa’.

Mae gan y clwb Cymreig pum gêm o’r tymor arferol i chwarae wrth iddynt dargedu lle yn wyth uchaf yr adran i ennill eu lle yn y gemau ail gyfle.

Ond mae hyfforddwr Castleford, Terry Matterson wedi galw ar ei dîm i beidio gollwng eu gafael i’r wythfed safle ar ôl ei adennill dros y penwythnos.

“Mae gennym ni gêm fawr yr wythnos nesaf. R’yn ni wedi trafod pwysigrwydd y pythefnos nesaf,” meddai hyfforddwr Castleford.

“R’yn ni’n ôl yn yr wyth uchaf. Mae yna bump gêm yn weddill, ac mae gyda ni gyfle gwych o orffen yn yr wyth ucha’.”