Bydd rhaid i gwsmeriaid BT dalu hyd at 10% yn fwy am alwadau ffôn traddodiadol, meddai’r cwmni heddiw.

Fe ddywedodd y cwmni telathrebu sydd â 12.5m o gwsmeriaid ffôn y byddan nhw hefyd yn codi’r gost fisol am rentu llinell – o 50c y mis.

Bydd llythyrau yn rhoi gwybod i gwsmeriaid am y newidiadau hyn yn cael eu hanfon yr wythnos hon.

Fe fydd cost cysylltu galwad yn mynd i fyny o 9.9c i 10.9c wrth i gyfraddau cost defnyddio’r ffon yn ystod y dydd godi o 5.9c i 6.4 y munud.

Roedd yn angenrheidiol codi prisiau i “dalu costau” a dod “allan o’r dirwasgiad mewn cyflwr da,” meddai llefarydd ar ran BT.

Mae’r cwmni’n ceisio “gwarchod cwsmeriaid rhag prisiau uchel,” meddai cyn dweud bod eu ffioedd yn “gystadleuol iawn”.