Fe fydd y Prif Weinidog yn ceisio atgyfodi ei gynllun am y Gymdeithas Fawr trwy gyhoeddi pedwar cynllun arbrofol yn Lloegr.
Fe fydd arian sydd mewn cyfrifon banc segur yn cael ei ddefnyddio i dalu am rai o’r cynlluniau, sy’n cynnwys syniadau fel tafarndai cymunedol neu gael gwirfoddolwyr i gadw amgueddfeydd yn agored.
Fe fydd David Cameron yn dweud rhagor am y bwriad mewn araith y bore yma, ar ôl i’r syniad fethu â chydio yn ystod ymgyrch yr Etholiad Cyffredinol.
Pôl piniwn yn dangos anwybodaeth
Yn ôl pop piniwn diweddar, dyw un o bob tri o bobol ddim yn gwybod beth yw’r Gymdeithas Fawr ac mae traean arall yn erbyn.
Yn ôl y beirniaid, mae’r syniad yn ffordd o dorri gwario cyhoeddus ar y slei ond fe fydd y Prif Weinidog yn dadlau bod y syniad yn troi llywodraeth “ar ei phen”.
Fe fydd yn siarad heddiw yn Lerpwl, un o’r pedair ardal arbrofol. Mae un o’r lleill mewn ardal wledig yn Cumbria a dau yn ne-ddwyrain Lloegr, yn Sutton yn Llundain a Windsor a Maidenhead.
Fe fydd pob ardal yn cael trefnydd a thîm o weision sifil i’w helpu nhw i hyfforddi rhagor o weithwyr cymunedol.
Tri bwriad
Y disgwyl yw y bydd David Cameron yn egluro bod tri bwriad y tu cefn i’r Gymdeithas Fawr:
• Gweithredu cymdeithasol – cael pobol i roi amser ac arian i achosion o’u cwmpas.
• Aildrefnu’r gwasanaethau cyhoeddus – cael gwared ar fiwrocratiaeth ganolog ac agor y gwasanaethau i elusennau, mentrau cymdeithasol a chwmnïau preifat.
• Rhoi grym i gymunedau.
Llun: David Cameron (Gwifren PA)