Mae llywodraeth yr Unol Daleithiau wedi gorchymyn i gwmni olew BP baratoi i ailagor y caead sydd tros y ffynnon olew yng Ngwlff Mecsico.
Maen nhw’n dweud bod peirianwyr wedi dod o hyd i arwyddion ei fod yn gollwng eto a bod nwy methan yn agos at y safle.
Ddoe, roedd swyddogion BP wedi mynegi gobaith y byddai’r caead yn parhau i atal y llif olew nes bod ffynhonnau eraill yn cael eu hagor gerllaw i fynd â’r olew trwy bibell newydd.
Gorchymyn
Yn y cyfamser, mae Thad Allen, sy’n gyfrifol am ymateb y Llywodraeth i’r llif wedi gorchymyn y cwmni i gyflwyno cynllun i ailagor y ffynnon – os bydd y caead yn parhau i ollwng.
Mewn llythyr at Reolwr Gyfarwyddwr BP, mae’n dweud fod y cwmni wedi ymrwymo i ymchwilio os bydd y caead yn gollwng ac i roi adroddiad am hynny o fewn pedair awr.
Daw’r datblygiad diweddaraf wrth i’r cwmni olew mawr ystyried gwerthu eu gorsafoedd petrol – rhan o ymdrech i gael gwared ar 10% o’u hasedau er mwyn talu am gostau’r Gwlff.
Llun: Y ffrwydrad ar lwyfan olew a ddechreuodd y trafferthion ac achosi’r trychneb olew (AP Phtoto)