Mae pensiynwr o Gymru a oedd ar goll mewn mynyddoedd yn yr Eidal am 12 diwrnod wedi’i gael yn farw, meddai’r Swyddfa Dramor.
Fe gafodd Robert Collins, 68, o Abertawe, ei weld ddiwethaf yn gadael ei westy yn ardal y Dolomitiau ar Gorffennaf 7 ar ôl dweud ei fod yn mynd am dro i’r mynyddoedd.
Fe ddaethpwyd o hyd i’w gorff mewn llwyni yn Alleghe, yn nhalaith Belluna yng ngogledd yr Eidal, meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor.
Fe ddywedodd hefyd bod swyddogion conswl y Llywodraeth yn cynnig cymorth i’r teulu.
Pentref prydferth gyda chabanau pren traddodiadol yw Alleghe sy’n gyrchfan sgïo boblogaidd yn y gaeaf ac yn tynnu cerddwyr yn yr haf.
Mae’r mynydd ucha’ tua 10,000 o droedfeddi uwch lefel y môr.
Llun: Monte Civetta, mynydd ucha’r ardal