Mae’r gwaith o chwilio am gwmni hedfan i ddarparu gwasanaeth awyr rhwng y Gogledd a’r De am y pedair blynedd nesaf wedi dechrau.

Mae Llywodraeth y Cynulliad hefyd yn gobeithio y galla’i cwmni hedfan yn fwy aml, dair gwaith bod dydd ar rai dyddiau yn hytrach na dwywaith.

Mae’r Gwahoddiad i Dendro wedi cael ei hysbysebu yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd.

Cytundeb pedair blynedd

Ym mis Ebrill, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru y byddai Manx2 a’r cwmni hedfan sy’n bartner iddo, FLM Aviation, yn darparu’r gwasanaeth yn y tymor byr wedi i sylfaenwyr y gwasanaeth, Highland Airways, fethu.

Fe fydd y cytundeb pedair blynedd newydd yn dechrau ym mis Ionawr 2011. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tendrau yw 20 Medi.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol ym Mae Caerdydd wedi galw am gael gwared ar y gwasanaeth gan ddweud ei fod yn wastraff arian.

‘Hynod boblogaidd’

“Mae’r broses dendro hon yn ddechrau ar y gwaith o chwilio am gwmni hedfan i ddarparu’r gwasanaeth hynod boblogaidd hwn yn yr hirdymor am y pedair blynedd nesaf,” meddai’r Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones.

“Hyd yn hyn, mae 40,000 o deithwyr wedi defnyddio’r gwasanaeth ac mae’n ffurfio rhan bwysig o’n Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol sef helpu i leihau hyd amseroedd teithio a gwella’r cysylltiadau busnes rhwng y Gogledd a’r De”.