Mae un o’r prif elusennau wedi codi amheuon am fwriad y Llywodraeth i roi rhagor o arian cymorth i Afghanistan.
Mae’r cynllun yn “llawn peryglon”, meddai Cymorth Cristnogol, ac mae peryg y bydd llawer o’r arian yn mynd i ddwylo arweinwyr milwrol lleol.
Fe fydd yr Ysgrifennydd Datblygu Rhyngwladol, Andrew Mitchell, yn Afghanistan heddiw wrth iddo gyhoeddi cymorth ychwanegol o £200 miliwn yn ystod y pedair blynedd nesa’.
Mae hynny’n gynnydd o 40% a’r bwriad yw ei ddefnyddio i gryfhau’r heddlu lleol a chreu swyddi a hyfforddiant ac i ddarparu bwyd ar frys a moddion.
Peryg ‘ateb cyflym’
Ond, yn ôl Paul Valentin, Cyfarwyddwr Rhyngwladol Cymorth Cristnogol, y peryg yw bod yr arian yn ymgais i gael “ateb cyflym” cyn i filwyr Prydain adael y wlad yn 2015.
“Rydyn ni’n poeni y bydd yr arian ychwanegol yn cael ei wario efo bwriadau milwrol yn hytrach na rhai dyngarol pur,” meddai.
Roedd pryder hefyd y byddai’r arian yn mynd i ddwylo rhai o’r arweinwyr lleol sy’n cynnal eu byddinoedd eu hunain.
Milwyr yn gadael
Ddoe, fe gadarnhaodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Liam Fox, y bydd y rhan fwya’ o filwyr Prydeinig yn gadael Afghanistan erbyn 2014.
Yr unig rai i aros y tu hwnt i hynny, meddai, fydd milwyr sy’n helpu gyda hyfforddiant a chryfhau’r lluoedd lleol.
Fe gafodd pedwar arall eu lladd yno dros y Sul gan ddod â chyfanswm y marwolaethau ymhlith milwyr Prydain i 322.
Llun: Milwyr yn Afghanistan