Mae mudiad trethdalwyr wedi ymosod ar y Tywysog William am fynnu aros mewn bwthyn lleol yn hytrach nag aros gydag aelodau eraill o’r Llu Awyr yn y Fali yn Ynys Môn.
Fe ddatgelodd papur newydd ddoe ei bod hi’n costio tuag £1.4 miliwn i ddiogelu’r tywysog y tu allan i’r ganolfan lle mae’n hedfan hofrenyddion.
Yn ôl y Sunday Times, roedd Heddlu Gogledd Cymru’n gorfod clustnodi 15 o swyddogion arbennig i warchod y Tywysog sy’n byw yn y bwthyn ers mis Mawrth.
Eisiau i’r teulu brenhinol aberthu
“Ar adeg o gyni, os gall William arbed £1.5 miliwn i’r trethdalwyr, fe ddylai wneud hynny,” meddai Cynghrair y Trethdalwyr. “Mae pawb arall yn gorfod aberthu ac fe ddylai’r teulu brenhinol orfod gwneud hynny hefyd.”
Y Tywysog William yw’r trydydd pwysica’ yn nhrefn y teulu brenhinol, ar ôl y Frenhines a’r Tywysog Charles.
Mae staff ei dad yn Clarence House a Heddlu Gogledd Cymru wedi gwrthod rhoi sylw gan ddweud nad ydyn nhw’n trafod trefniadau o’r fath.
Llun: Y Tywysog William yn lifrai’r RAF (RobtheMoment CCA 2.0)