Diciâu ymhlith gwartheg, moch daear a’r cynllun difa fydd yn mynd â’r penawdau newyddion ar ddechrau’r Sioe Fawr yn Llanelwedd.
Dyna oedd pwnc cynadleddau i’r wasg yn Llanelwedd ddoe, gyda’r Llywodraeth yn mynnu bod rhaid parhau gyda chynlluniau i gael gwared ar y clefyd ac arweinwyr y ffermwyr yn rhybuddio’u haeloda i beidio â gweithredu ar eu liwt eu hunain.
Dyw hi ddim yn glir eto beth fydd ymateb y Llywodraeth ar ôl i Lys Apêl wrthod ei chynllun i gynnal arbrawf difa moch daear yn Sir Benfro. Ond fe ddywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Elin Jones, ei bod yn parhau’n benderfynol i gael gwared ar y diciâu.
‘Gwneud pethau’n waeth’
Fe ddywedodd Llywydd undeb yr NFU yng Nghymru y dylai ffermwyr aros am gamau nesa’r Llywodraeth yn hytrach na cheisio difa moch daear eu hunain.
“Dw i’n gwybod fod pethau’n anodd,” meddai Ed Bailey wrth Radio Wales. “Ond dim ond gwneud pethau’n waeth fyddai gweithredu ein hunain.”
Fe ddywedodd y byddai hynny’n colli cefnogaeth y cyhoedd a’i fod yn gobeithio y bydd y Llywodraeth yn gallu cyflwyno cynllun arall cyn bo hir.
“Os nad yw’r difa yn gynhwysfawr fe allai waethygu’r clefyd.”