Bydd Aelod Seneddol o Gymru’n cyflwyno mesur yn y senedd ddydd Mercher i geisio cosbi cwmnïau cardiau credyd a debyd os ydyn nhw’n cael eu defnyddio i dalu am bornograffi plant ar y we.
Mae tua 40 o Aelodau Seneddol o wahanol bleidiau wedi arwyddo cynnig gan Geraint Davies, AS Llafur Gorllewin Abertawe, a fyddai’n gosod dirwyon trwm ar y cwmnïau.
Gobaith Geraint Davies yw y bydd ei gynigion yn cael eu mabwysiadu gan y Llywodraeth ac yn cael eu cynnwys mewn deddfwriaeth ddiweddarach.
“Trwy chwilio â geiriau allweddol fel ‘child sex pornography’ mae modd adnabod y prif wefannau cam-drin plant yn gyflym, a mater hawdd fyddai ei gwneud hi’n ofynnol i gwmnïau cardiau wahardd mynediad neu wynebu dirwyon trwm,” meddai.
“Y tu ôl i bob llun mae trosedd unigol o gam-drin plant ac o drychineb sy’n cael ei anfarwoli ar y we fyd-eang. Mae fy mesur i’n anelu at ddifa ffynhonnell ariannol y farchnad wyrdroedig am luniau o gam-drin plant.
“Byddai camau o’r fath yn ei gwneud hi’n anodd i ddarpar-wylwyr pornograffi plant gael ato, ac felly’n lleihau momentwm ariannol cam-drin plant.
“Fe fyddai’n syniad da hefyd i gwmnïau cardiau credyd a chardiau debyg i ddechrau ar broses o adnabod gwefannau a rhwystro trafodion ariannol ar unwaith – er lles plant ac er lles enw da’r cwmnïau eu hunain.”
Llun: Geraint Davies, Aelod Seneddol Gorllewin Abertawe