Enillodd y golffiwr o Dde Affrica, Louis Oosthuizen, ei wobr ryngwladol fawr gyntaf heddiw gyda’i fuddugoliaeth ysgubol yn y 139fed Pencampwriaeth Agored yn St Andrews.
Cwblhaodd Oosthuizen rownd derfynol mewn 71 ar yr Hen Gwrs gan sicrhau cyfanswm o 16 yn well na’r safon – a oedd yn saith ergyd ar y blaen i rif tri y byd, Lee Westwood, gyda Paul Casey, Rory McIlroy a Henrik Stenson un ergyd ar ôl.
Roedd y pencampwr byd Tiger Woods ymhell y tu ôl gyda rownd derfynol o 72, a chyfanswm o dri yn well na’r safon, ac nid oedd ar unrhyw adeg yn edrych fel petai am ennill y Bencampwriaeth Agored am y trydydd tro.
Llun: Louis Oosthuizen