Cafodd Papua New Guinea ei tharo gan ddau ddaeargryn cryf o dan y môr y bore yma.

Roedd y ddau ddaeargryn, o fewn hanner awr i’w gilydd ac yn mesur 7.3 a 6.9 ar raddfa Richter.

Roedd eu canolbwyntiau 31 milltir islaw gwely’r môr 325 milltir i’r gogledd-ddwyrain o Port Moresby, prifddinas Papua New Guinea.

Er bod Indonesia wedi cyhoeddi rhybudd o tsunami ar y cychwyn, cafodd hwnnw ei ddileu’n ddiweddarach, ar ôl i ddaearegwyr sicrhau nad oedd perygl o tsunami dinistriol o’r naill ddaeargryn na’r llall.