Mae’n annhebygol iawn y bydd Prydain yn dilyn yr un trywydd â Ffrainc a gwahardd merched Mwslimaidd rhag gwisgo’r penwisg burka mewn mannau cyhoeddus, yn ôl Gweinidog Mewnfudo’r llywodraeth.

“Byddai cyfraith o’r fath yn gwbl groes i’r gymdeithas oddefgar a’r parch sydd gennym at ein gilydd ym Mhrydain,” meddai Damian Green.

Mae hyn er gwaethaf y ffaith fod un o’i gyd-aelodau seneddol Torïaidd, Philip Hollobone, wedi cyflwyno mesur preifat a fyddai’n ei gwneud hi’n anghyfreithlon i bobl orchuddio eu hwynebau mewn mannau cyhoeddus.

Mae arolwg barn diweddar hefyd wedi dangos fod dau o bob tri o’r etholwyr yn cefnogi gwaharddiad tebyg i’r hyn a gafodd ei gymeradwyo gan gynulliad cenedlaethol Ffrainc yr wythnos ddiwethaf.

“Fe fyddai dweud wrth bobl beth y gallan nhw ac na allan nhw wisgo, os nad ydyn nhw ond yn cerdded i lawr y stryd, yn beth braidd yn am-mhrydeinig i’w wneud,” meddai Damian Green.

Yn wahanol i Ffrainc, nid yw’r Deyrnas Unedig yn wladwriaeth “ymosodol seciwlar”, ychwanegodd, gan awgrymu bod y gwaharddiad yno’n cael ei gyflwyno er mwyn profi pwynt.

Mae ysgrifennydd cyfiawnder yr wrthblaid, Jack Straw, hefyd yn gwrthwynebu gwaharddiad.

Yn y cyfamser, fe fydd senedd Sbaen yr wythnos yma’n trafod cynnig i wahardd gwisgo’r burka mewn mannau cyhoeddus, ar y sail fod gwisgoedd o’r fath yn diraddio merched.

Mae Barcelona a rhai o drefi eraill Catalunya eisoes yn gwahardd y burka a’r niqab mewn adeiladau dinesig.