Mae’r Llywodraeth yn bwriadu gwario 40% yn fwy ar brosiectau cymorth yn Afghanistan.

Bydd yr Ysgrifennydd Datblygu Rhyngwladol, Andrew Mitchell, yn datgan yfory mai sicrhau cynnydd yn y wlad honno yw ei “brif flaenoriaeth”.

Daw’r cyhoeddiad yng nghanol adroddiadau cynyddol am fwriad Prydain i dynnu milwyr allan o Afghanistan erbyn 2014 neu 2015, ac mae’r llywodraeth yn cadarnhau mai hwyluso hyn yw’r amcan y tu ôl i’r cynnydd.

Afghanistan fydd y wlad a fydd yn elwa fwyaf o adolygiad o wariant tramor Llywodraeth Prydain – gyda thaliadau i ddwsinau o wledydd yn cael eu gostwng neu eu diddymu.

Gydag arolygon barn yn dangos bod ar y mwyafrif o bleidleiswyr eisiau gweld toriadau mewn cymorth rhyngwladol o flaen gwariant ar wasanaethau cyhoeddus ym Mhrydain, mae Andrew Mitchell o dan bwysau i gyfiawnhau’r arian sy’n cael ei wario gan ei Adran.

Diogelu

Yn ei ddatganiad yfory, mae disgwyl iddo ddweud:

“Does unlle sy’n dangos yn gliriach nag Afghanistan pam fod arian sy’n cael ei wario dros y môr yn rhywbeth sydd o fudd i Brydain.

“Mae’r Deyrnas Unedig yno i rwystro rhag i diriogaeth Afghanistan gael ei ddefnyddio eto gan al Qaida fel canolfan i gynllunio ymosodiadau ar Brydain a’n cynghreiriaid.

“Er bod y milwyr yn rhoi diogelwch, yr unig ffordd y gyflawni heddwch fydd trwy gynnydd gwleidyddol wedi ei gefnogi â datblygiad. Dw i’n benderfynol o gefnogi ymdrechion ein lluoedd arfog wrth inni weithio tuag at dynnu ein hymladdwyr yn ôl.”

Bydd yr arian ychwanegol yn cael ei ganolbwyntio ar sefydlogi 80 o ardaloedd allweddol, cryfhau economi’r wlad a “chael y llywodraeth i sefyllfa lle mae’n gallu diwallu anghenion sylfaenol ei bobl”.

Mae Andrew Mitchell yn awyddus hefyd i hybu addysg, gyda’r nod o gael chwe miliwn o blant i’r ysgol o fewn dwy flynedd a degau o filoedd o bobl y wlad i hyfforddiant galwedigaethol.