Mae trefnwyr Gŵyl y Faenol wedi dweud heddiw y bydd hi’n dipyn o gamp cadw’r ŵyl i fynd drwy’r wasgfa ariannol.

Ychydig wythnosau cyn dathlu 10fed Pen-blwydd Gŵyl y Faenol, dywedodd y trefnwyr fod yr argyfwng economaidd “yn gosod tipyn o her” i’r ŵyl.

“Mae pobol yn aml wedi dweud bod Gŵyl y Faenol yn syniad gwallgof – y byd yn dod i gae y tu allan i Gaernarfon!” meddai Bryn Terfel heddiw.

“Ond mae wedi gweithio bob tro, ac wedi bob yn brofiad gwych.

“Ond rhaid cyfaddef bod yr adegau economaidd heriol hyn yn cael effaith arnon ni ac rydyn ni wedi gweld arafu sylweddol yn y gwerthiant tocynnau yn dilyn cyhoeddi’r gyllideb.”

Dywedodd mai ei obaith i yw “helpu cynulleidfaoedd i ddeall bod y digwyddiadau hyn yn galw am eu hymrwymiad ynghynt yn hytrach nag yn hwyrach, a bod eu hymrwymiad yn hanfodol ar gyfer parhad y digwyddiadau hyn trwy’r adegau economaidd anodd yma.”

Mae Bryn Terfel yn annog unrhyw un sydd am fynychu Gŵyl y Faenol eleni i “brynu eu tocyn yn ystod y deng niwrnod nesaf. Ymrwymwch i ddod i fwynhau cyfoeth o adloniant o’r safon orau yn y byd.”


‘Dan bwysau’

Dywedodd Antony Warren o Universal Music, sy’n hyrwyddo’r digwyddiad eleni, y byddai disgwyl cyn prynu tocynnau yn rhoi’r ŵyl dan bwysau.

“Mae nifer o wyliau a digwyddiadau ar draws y byd yn gweld cynulleidfaoedd yn tueddu i aros tan y funud olaf cyn prynu eu tocynnau,” meddai.

“Mae hyn yn ei dro yn rhoi trefnwyr y digwyddiadau hynny dan bwysau sylweddol i benderfynu’n gynnar sut orau mae mynd ymlaen mewn modd cyfrifol.

“Rydan ni eisiau sicrhau nid yn unig yr ŵyl eleni ond dyfodol yr Ŵyl hefyd.”

Ychwanegodd Syr David Henshaw, Cadeirydd Ymddiriedolaeth y Faenol, bod yr ŵyl “fel arfer yn rhoi hwb o £3miliwn i’r economi leol ac fel y gwelson ni’r llynedd mae colli hynny’n cael effaith sylweddol ar yr ardal.”

“Mae cadw’r ŵyl yn fyw yn galw am ymrwymiad gennym ni fel yr Ymddiriedolwyr ac Universal y cynhyrchwyr, awdurdodau lleol, busnesau lleol, y Cynulliad a’r gynulleidfa.”

‘Un Newid i’r ŵyl’

Dywedodd y trefnwyr eu bod nhw am roi gwybod ynglŷn ag un newid pwysig i’r ŵyl yr wythnos hon.

Oherwydd rhesymau logistaidd na ellid eu hosgoi sy’n ymwneud ag “argaeledd artistiaid”, bydd perfformiad prynhawn Brwydr Prydain gyda Hayley Westenra a Rhydian yn cael ei symud o Ddydd Llun 30ain i Ddydd Sadwrn 28ain Awst. Fe fydd yn dechrau am 12.30.

Ymddiheurodd y trefnwyr am yr anghyfleustra. Fe fydd yr holl docynnau sydd wedi eu prynu ar gyfer Sioe Brwydr Prydain y Dydd Llun yn awtomatig yn ddilys ar gyfer y perfformiad sydd wedi ei aildrefnu ar Ddydd Sadwrn 28ain.

Mae trefnwyr yn dweud y dylai’r bobl sydd ddim yn gallu mynychu ar y dyddiad hwn “anfon eu tocynnau nôl i’r man lle y prynwyd nhw er mwyn derbyn ad-daliad llawn”.