Mae Geraint Thomas a Nicole Cooke wedi eu cynnwys yng ngharfan seiclo Cymru fydd yn cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad yn Delhi ym mis Hydref.

Bydd Thomas a Cooke yn cystadlu yn y ras ffyrdd wrth iddynt dargedu medalau i Gymru yn India.

Ond ni fydd Geraint Thomas yn cystadlu yng nghystadlaethau’r trac oherwydd ei fod yn cymryd rhan ym Mhencampwriaeth Ras Ffyrdd y Byd yn Awstralia.

Ar hyn o bryd mae Thomas yn cystadlu yn y Tour de France, ac mae yn y 65fed safle, 51 munud tu ôl i arweinydd y gystadleuaeth, Andy Schleck.

Mae Thomas a Cooke wedi mwynhau llwyddiant yng Ngemau’r Gymanwlad yn y gorffennol.

Fe enillodd Nicole Cooke y fedal aur yng ngemau 2002 a’r fedal efydd yn 2006. Fe enillodd Geraint Thomas y fedal efydd ym Melbourne yn 2006 hefyd.


Edrych ymlaen i gystadlu dros Gymru

Ond nid Thomas a Cooke yw’r unig aelodau o dîm Cymru sydd â gobeithion o ennill medal yn India.

Mae ‘na 17 aelod i’r tîm sy’n cynnwys pencampwr gwibio ieuenctid y byd, Becky James a’r rasiwr ffyrdd proffesiynol, Rob Partridge.

Mae Becky James yn cael eu hystyried yn un o seiclwyr mwyaf addawol Prydain, ac mae’n edrych ymlaen at y cyfle i gael cystadlu yn y gemau.

“Rwy’n hapus iawn cael bod yn y tîm – roeddwn ni ychydig yn nerfus cyn y cyhoeddiad,” meddai Becky James.

“Dim ond dechrau cystadlu ar y lefel hŷn ydw i eleni, felly mae’n mynd i fod yn anodd.

“Rydw i am ddefnyddio’r cyfle i ennill tipyn o brofiad am nad ydw i’n siŵr sut fyddai’n ei wneud.

“Dydach chi ddim yn cael llawer o gyfle i gystadlu dros Gymru, dim ond Prydain ym mhencampwriaethau Ewrop a’r Byd.

“Mae’n bosib mai dyma fydd fy unig gyfle i gystadlu dros Gymru, felly fe ddylai fod yn gyffrous.”