Mae ysgrifennydd Bangor yn credu bod safon pêl droed Cymru yn gwella yn dilyn gêm gyfartal Bangor yn erbyn Honka yn y Ffindir neithiwr.

Sgoriodd Chris Jones gôl oddi cartref holl bwysig ac fe arbedodd golwr Bangor, Paul Smith gic o’r smotyn er mwyn sicrhau fod y gêm yn gorffen 1-1.

“Does dim amheuaeth bod pêl droed Cymru wedi gwella eleni,” meddai ysgrifennydd Bangor, Gwynfor Jones, wrth Golwg 360.

“Roedd Llanelli yn anlwcus i golli ac mae cyfle gan y Seintiau Newydd o hyd. Erbyn wythnos nesaf, rwy’n gobeithio bydd dau dîm o Gymru yn mynd ‘mlaen i’r rownd nesaf.”

Mae Gwynfor Jones yn credu bod y profiad sydd gan Fangor o chwarae yn Ewrop dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn allweddol.

“Dyma’r trydydd tymor yn olynol i ni chwarae yn Ewrop, ac r’yn ni wedi dysgu o’n profiadau cynt,” meddai ysgrifennydd Bangor.

“Mae’r clod yn mynd i’r chwaraewyr a’r gwaith gwych mae’r rheolwr a’r tîm hyfforddi wedi ei wneud.

“Mae pob un o’r chwaraewyr yn gwybod beth yw eu gwaith o fewn y tîm.”

Ond er gwaethaf y canlyniad da, mae Gwynfor Jones yn credu mai Honka yw’r ffefrynnau o hyd.

“Hanner amser ydi hi- mae gennym ni un gêm o’n blaen ni eto ac fe gawn ni weld ar ôl wythnos nesaf,” ychwanegodd Gwynfor Jones.