Bu farw Louis Thomas o ganser yr wythnos yma yn 59 oed.
Fe oedd prif ganwr Louis a’r Rocyrs, oedd yn fand roc trwm Cymraeg yn yr 1980au, wnaeth gyhoeddi dwy sengl a chasét hir.
Med Parri oedd yn chwarae gitâr fas i’r band, ac mae wedi dweud wrth Golwg 360 fod adnabod Louis Thomas wedi bod yn “fraint.”
“Roedd o’n edrych yn beryglus,” meddai Med Parri, “ond roedd o’n addfwyn iawn. Roedd o’n Gofi go iawn, ac yn gwmni ffantastig.”
Gwelodd Louis Thomas am y tro cyntaf yn chwarae’r gitâr fas efo’r band Maggs meddai, a dyna wnaeth ei “ysbrydoli” i chwarae’r offeryn.
“O ran cerddoriaeth, mae’n golled, roedd yn gerddor da,” meddai. “Roedd yn reidio motor-beics, a rhyw fath o feicar band oedd Louis a’r Rocyrs.
“Roedd yn foi teulu, ac yn gwneud popeth gant y cant. Beth sy’n dangos ei gymeriad yw ei fod wedi cael diagnosis o ganser bum mlynedd yn ôl, ac wedi ymladd ymlaen ers hynny.”
‘Rhywbeth gwahanol’
Yn ôl Dafydd Iwan o gwmni Sain, roedd Louis Thomas yn “berson hoffus, genuine iawn iawn”.
“Ychydig yn wahanol i’w ymddangosiad, roedd yn foi hawdd gwneud hefo fo,” meddai. Roedd “wedi dod a rhywbeth gwahanol i ganu Cymraeg”.
Y sgrin fach
Yn ogystal â’i gerddoriaeth, daeth Louis Thomas yn wyneb cyson ar y sgrin fach yn yr 1980au.
Ymddangosodd mewn rhaglenni ar S4C, gan gynnwys Jabas a’r ffilm adnabyddus, Y Dyn Wnaeth Ddwyn y Nadolig.
Cyn ffurfio Louis a’r Rocyrs, roedd Louis Thomas yn aelod o’r bandiau Bran a Maggs.
Mae’n gadael gwraig a dau o blant ar ei ôl.