Mae Llais Gwynedd wedi dal ei gafael ar un o’i seddi ar Gyngor Gwynedd ar ôl i Richard Lloyd Jones o Lais Gwynedd ennill isetholiad ym Mlaenau Ffestiniog ddoe.

Er iddo ddenu 185 pleidlais dim ond pedair pleidlais oedd rhwng Richard Lloyd Jones o Lais Gwynedd a Paul Thomas o Blaid Cymru.

Cafodd cyn gynghorydd y sedd, Gwilym Euros Roberts, ei ddedfrydu i bedair blynedd a hanner yn y carchar ar ôl pledio’n euog i niwed corfforol difrifol ym mis Ebrill.

Dywedodd Richard Lloyd Jones wrth Golwg360 ei fod yn “Teimlo’n positif y gallai wneud gwahaniaeth.”

“Dw i isio sefyll i fyny dros y werin. Dros y bobl pentref dw i wedi tyfu i fyny hefo nhw – y bobl sy’n teimlo nad oes ganddyn nhw lais,” meddai Richard Jones, sy’n wreiddiol o Flaenau ac sy’n gweithio fel Rheolwr Cyffredinol yn Lloyd Coaches, Machynlleth.

“Pan o’n i’n tyfu i fyny, dw i’n cofio nain yn deud nad oedd hi eisiau codi ffôn ar ‘bobl Cyngor – pobl siwtiau.’ Dw i isio pobl i allu ddod ata i. ‘Dw i eisiau chwarae rhan mewn materion allweddol sirol, ond isio helpu pobl gyda materion mwy personol a lleol.

“Fel hogyn sydd wedi tyfu i fyny yma, dw i’n cofio Blaenau yn ffynnu, yn fwrlwm o bobl a chymuned. Yn y blynyddoedd diwethaf mae gwaith wedi mynd, a’r wasgfa ariannol wedi hitio pawb. Mae ’na waith da gan fudiadau’n digwydd yn barod ond dw i isio bod yn llais ychwanegol.”


‘Mam’

Ynghyd ag amddiffyn ysgolion, y gymuned a’r economi, un peth arall sydd yn agos at ei galon yw amddiffyn yr ysbyty lleol.

“Mae ‘na gwmwl mawr du wedi bod dros ysbyty Blaenau,” meddai.

“Dw i ddim eisiau gweld yr ysbyty’n wynebu toriadau. Dw i isio bod yn llais cryf i amddiffyn yr ysbyty.

“Mae Blaenau yn ardal fawr sydd angen ysbyty – mae hefyd yn cyflogi pobl yr ardal,” meddai cyn egluro ei fod “wedi colli’i fam o ganser bedair blynedd yn ôl”.

“Yn anffodus, oherwydd y salwch afiach fe gafodd mam ei throsglwyddo i ysbyty Blaenau. Fe gafodd ofal a gwasanaeth arbennig o dda. Liciwn i dalu teyrnged i’r ysbyty. Mae’r ysbyty’n rhan bwysig o Blaenau.”

Gwleidyddiaeth

Dywedodd nad oedd yn synnu bod y bleidlais wedi bod mor agos yn y sedd.
“Ro’ ni’n gwybod nad oedd ennill y sedd am fod yn hawdd. Mae Paul yn hogyn neis iawn ac rydan ni wedi bod yn siarad hefo’n gilydd ar ochr stryd yn aml yn ystod yr ymgyrchu,” meddai cyn dweud fod y ddau o’r un ardal leol.

“Dw i’n wyneb newydd i wleidyddiaeth. ‘Dw i’m yn dweud wrth bobl mod i’n addo’r byd iddyn nhw – ond mi ydw i yma i frwydro dros Blaenau ac i sefyll i fyny dros y bobl.”

“Fe ges i’n magu gan fy mam i ddangos parch ac i drin pobl fel y byddwn i eisiau iddyn nhw fy nhrin i. Mae ots gen i am bobl,” meddai cyn diolch i dîm Llais Gwynedd ac i “bobl Blaenau am ymddiried yno”.


Cadeirydd Llais Gwynedd

Yn ôl Owain Williams, Cadeirydd Llais Gwynedd, y rheswm mae’r Blaid wedi dal y sedd yn erbyn Plaid Cymru yw eu “polisïau sy’n boblogaidd gyda’r werin”.

“Mae Plaid Cymru yn parhau â’u bwriad o gau ysgolion ac mae’n cymunedau ni’n dioddef….ein dadl ni yw ‘cau ysgol – cau cymuned’. Ysgolion yw calon y gymuned.

“Er gwaethaf yr amgylchiadau anodd a’r digwyddiadau trist ynghynt, mae hyn yn profi bod y momentwm dal ganddo’n ni,” meddai wrth Golwg360.

Mae’n disgrifio Richard Lloyd Jones fel “person sy’n gallu gwneud yn dda â phobl” a “gwrandäwr da”.

“Mae pobl yn ffed yp o’r pleidiau mawr traddodiadol … maen nhw eisiau gwleidyddiaeth onest sy’n gwasanaethu’r werin,” meddai cyn dweud mai dewis rhwng Plaid Cymru neu’r Prif Bleidiau oedd o ers talwm ond fod Llais Gwynedd wedi newid hynny a bod “dwy blaid Gymraeg” bellach.

“Roedden ni’n gwybod bod bob pleidlais yn bwysig ac rydan ni wedi gweithio fel tîm – rydan ni hefyd yn nabod pobl Blaenau. Fel Plaid, rydan ni wedi gweithio yn galed a phroffesiynol ym Mlaenau.”