Mae pobol Cymru ymysg y mwyaf gwybodus ym Mhrydain ynglŷn â’r dechnoleg ddiweddaraf, yn ôl ymchwil newydd.
Mae’r Cymry yn aml iawn yn cael eu portreadu fel pobol sy’n araf iawn i ddeall y we a thechnoleg flaengar.
Ond yn ôl arolwg newydd gan gwmni 02, mae Cymru o flaen y gad, ac yn ail yn unig i Lundain wrth ddeall y dechnoleg ddiweddaraf.
Roedd yr arolwg yn mesur faint o ddealltwriaeth oedd gan bobol ynglŷn â’r we, ffonau symudol a thechnoleg ddigidol.
Roedd yr arolwg yn gofyn cyfres o gwestiynau er mwyn mesur ‘TQ’ pobol o bob rhan o Brydain.
Gogledd Ddwyrain Lloegr, Dwyrain Canolbarth Lloegr a Swydd Efrog oedd â’r TQ isaf.
Llundain, Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr oedd y mwyaf gwybodus ynglŷn â thechnoleg.
Roedd un mewn pump o’r rheini a holwyd yn dweud nad oedden nhw erioed wedi defnyddio Wifi, a doedd eu chwarter nhw erioed wedi defnyddio iPhone.
Roedd un mewn pump erioed wedi defnyddio gwefan cymdeithasu fel Facebook.
Y rhestr lawn
1 Llundain
2 Cymru
3 Gogledd Orllewin Lloegr
4 Gorllewin Canolbarth Lloegr
5 Dwyrain Lloegr
6 Yr Alban
7 De Ddwyrain Lloegr
8 Gogledd Ddwyrain Lloegr
9 Swydd Efrog
10 Dwyrain Canolbarth Lloegr