Mae Comisiwn Ewrop wedi rhoi caniatâd i’r cwmnïau awyr British Airways ac Iberia uno.

Roedd y Comisiwn wedi bod yn ymchwilio i weld os y byddai hyn yn torri rheolau cystadleuaeth deg.

Bydd yr uno’n creu’r trydydd cwmni hedfan mwyaf yn Ewrop, a’r enw newydd fydd International Airlines Group, er y bydd brandiau unigol y cwmnïau yn cael eu cadw.

Mae’r comisiwn hefyd wedi caniatáu i’r ddau gwmni gydweithio efo American Airlines i rannu costau a chyfnewid amseroedd mewn amserlenni hedfan.

Mae Adran Drafnidiaeth yr Unol Daleithiau yn parhau i ystyried y mater, ond mae’r cwmni awyr Virgin Atlantic wedi beirniadu penderfyniad y Comisiwn, gan honni y bydd y fath gydweithio yn creu “bwystfil o fonopoli.”